Lleoliad:
Fideo gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 21 Medi 2020
Amser:
14.30 -
16.58
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6553
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Llyr Gruffydd AS (Cadeirydd) Alun Davies AS Mike Hedges AS Rhianon Passmore AS Nick Ramsay AS Mark Reckless AS |
Tystion: |
Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Archwilio Cymru, Auditor General for Wales, Audit Wales Isobel Everett, Archwilio Cymru Georgina Haarhoff, Llywodraeth Cymru Andrew Hobden, Llywodraeth Cymru Kevin Thomas, Archwilio Cymru Kirsty Williams AS, Y Gweinidog Addysg Sara James, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Owen Holzinger (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Cyllid.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Siân Gwenllian AS.
2 Papur(au) i’w nodi
Nodwyd y cofnodion.
3 Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru): Sesiwn dystiolaeth
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg; Georgina Haarhoff, Dirprwy Gyfarwyddwr, y Cwricwlwm, Sara James, Pennaeth Ymchwil Ysgolion, Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, ac Andrew Hobden, Economegydd, yr Is-adran Cyngor Economaidd ar Fil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).
4 Goruchwylio gwaith Swyddfa Archwilio Cymru – Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2019-20 a’r Cynllun Blynyddol ar gyfer 2020-21: Sesiwn dystiolaeth
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru; Isobel Everett, Cadeirydd Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru, Archwilio Cymru; a Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Corfforaethol, Archwilio Cymru am Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2019-20 a'r Cynllun Blynyddol ar gyfer 2020-21.
4.2 Cytunodd Archwilio Cymru i ddarparu rhagor o fanylion ar gyfrifo'r cyfnod ad-dalu ar gyfer ailstrwythuro o ran rheoli.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Goruchwylio gwaith Swyddfa Archwilio Cymru – Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2019-20 a’r Cynllun Blynyddol ar gyfer 2020-21: Trafod y dystiolaeth
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
7 Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru): Trafod y dystiolaeth
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.